1 Gwawr ddyhuddiant y cantref
2 lleian aeth ir llv o nef
3 Ac er non calon ai cel
4 Ac er dewi eigr dawel
5 O fon deg poed rhwydd rhegddi
6 I fynyw deg fenaid i
7 I geisio blodevo r blaid
8 Maddeuaint am a ddywaid
9 Am ladd i gwas dvlas dig
10 penydiwr cvl poenedig
11 [147v] O alanas gwas gwawdferw
12 Yr aeth oer hiraeth ar herw
13 Greddf ffoes grvddiav ffion
14 Gadewis fy newis fon
15 Christ Arglwydd boed rhwydd bid trai
16 Gas a chymmwynas menai
19 Y Traeth mawr cludfawr clod
20 Treia gad fyned trwod
21 Y bychan draeth gaeth gerrynt
22 Gad im dyn gwyn hyn o hynt
23 Darfv'r gweddiav dirfawr
24 Digyffro fo ertro fawr
25 Talwn fferm porth Abermaw
26 Ar don drai er i dwyn draw
27 Gydne gwin gad naw gwaneg
28 Dysynni i dir dewi deg
29 A dwfn yw tonnav dyfi
30 Dwr rhyn yn i herbyn hi
31 Rheidol gad er danrhydedd
32 heol i fvn hael o fedd
33 [148r] Ystwyth ymmhwyth gad i'm hon
34 Drais dewddwfr dros dy ddwyfron
35 Aeron ferw hyson hoywserch
36 Gad trwod fyfyrglod ferch
37 Teifi dwr tyfiad evrwawn
38 Gad ir dyn gadeirio'r dawn
39 Dirfing drwy'r afon derfyn
40 Yr el ac y del y dyn
41 MainMae i'm hirffawd mae
'mhorphor
42 Os byw rhwng mynyw a mor
43 Os hi am lladdawdd oes hir
44 herw hylithr hwyr yr holir
45 Maddevaint mair neddair nawdd
46 Im lleddf wylan am lladdawdd
47 Diav a mi ai diavr
48 Mi a maddeva i'm avr
Da' ap Glm'